
Waldo Williams
1904 – 1971
Ystyrir Waldo Goronwy Williams yn ffigwr mytholegol. Nid oedd neb a adwaenai Waldo yn ei gasâu.
Byddai pawb a dreuliai amser yn ei gwmni yn trysori pob eiliad. Roedd plant bychain bob amser yn hoff ohono pan ddeuai i’w dysgu. Mynna rhai y perthynai i Waldo nodweddion sant. Yn sicr, roedd ganddo argyhoeddiadau dwfn a direidi difalais.
Dywedodd rhywun rhywbryd ei bod wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo. Roedd wedi ei drwytho ei hun yn hanes ei genedl. Ar un achlysur safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiad seneddol. Er iddo golli ei ernes enillodd lu o edmygwyr.
I lawer Waldo oedd bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. I eraill roedd yn heddychwr a ddigwyddai fod yn fardd. Edmygwyd ei safiad yn wynebu dau gyfnod yng ngharchar am wrthod talu treth incwm mewn protest yn erbyn gorfodaeth filwrol a rhyfela.
Pan oedd yn ganol oed ymunodd â’r Crynwyr. Carai’r distawrwydd a’r modd o gyrraedd y canol llonydd yn addoliad y Ty Cwrdd. Cyflwynodd ei unig gyfrol o farddoniaeth Dail Pren yn gyfrwng iachâd i’w genedl. Ni wyddom am yr un bardd arall a wnaeth y fath gymwynas â chenedl.